top of page
Mynyddau Rhwng F'ysgwyddau
Mae nerth yn y mynyddoedd
I gario pwysau'r nen
I gofio taw beth bynnag ddaw
Daw hefyd hwn i ben.
Mae'r nefoedd yn garedig
Yn maddau pob un nam
Felly cerddwn at y copa
Fesul dipyn, gam wrth gam.
Heb hidio'r troeon trwstan
Na thymhestloedd gwyllt y daith;
Gyhyd â'n bod ni'n symud
Bydd ystyr mawr i'n gwaith.
Dafydd Reeves
@daidafod
bottom of page